Hedy Lamarr (cy)
This is a blog post by Neil Taylor, for International Women’s Day 2022. You can find the English version here.
Dyma blog gan Neil Taylor, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2022. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.
Hedy Lamarr, Dyfeisiwr a Seren Hollywood
Er mai fel actores Hollywood mae Hedy Lamarr yn fwyaf adnabyddus, fel seren mewn ffilmiau rhwng 1938 a 1958, roedd hi hefyd yn ddyfeisiwr. Mae’n debygol bod ei gwaith wedi effeithio ar y ffordd rydych chi’n darllen yr erthygl hon.
Ganed Lamarr yn Hedwig Eva Maria Kiesler yn Awstria, a dechreuodd ar ei gyrfa mewn ffilmiau yn Ewrop yn gynnar ac yng nghanol y 1930au. Ar ôl symud i Lundain, cyfarfu â Louis B Mayer (o Metro-Goldwyn-Mayer) a hynny â’i rhoddodd ar ei thrywydd i’r Unol Daleithiau. Y tu allan i’w gwaith yn Hollywood, dywedir ei bod wedi byw bywyd tawel, heb bartïon afradlon a’r cymdeithasu oedd yn gysylltiedig ag enwogrwydd yn Hollywood. Yn y cyfnod hwn y neilltuodd ran o’i chartref i roi desg ar gyfer gweithio ar syniadau i wella’r byd [1] .
Anogodd ei rhieni ei diddordeb yn y ffordd roedd pethau’n gweithio. Er ei bod wedi breuddwydio am fod mewn ffilmiau o oedran cynnar, roedd yr elfen hon o’i bywyd wedi parhau. Dywedir iddi ddweud, “Roedd gobaith a chwilfrydedd ynglŷn â’r dyfodol yn well na sicrwydd. Dyna sut un oeddwn i. Roedd y dieithr bob amser yn hynod ddeniadol i mi … ac yn dal i fod.” [2]
Yn gynnar yn y 1940au, ymunodd yr Unol Daleithiau â’r Ail Ryfel Byd. Dysgodd Lamarr am ymosodiadau ar yr Unol Daleithiau gyda thorpidos oedd yn cael eu rheoli gan signal radio. Dyfeisiodd ddyfais a fyddai’n amharu ar y signal radio hwnnw er mwyn rheoli’r arfau. Roedd hyn yn digwydd drwy hopian amledd. Gweithiodd gyda George Antheli i ddatblygu’r ddyfais a chael Patent 2,292,387 yr UDA ar gyfer y System Gyfathrebu Gudd. Cyflwynwyd y patent i Hedy Kiesler Markey, ei henw priod ar y pryd.
Ni ddefnyddiodd byddin yr Unol Daleithiau’r ddyfais, yn rhannol oherwydd anawsterau i gynhyrchu offer oedd yn gweithio gyda’r dechnoleg oedd ar gael ac yn rhannol oherwydd bod y syniad wedi dod o du allan i’r fyddin [3]. Dywedir iddo gael ei ddefnyddio yn ddiweddarach yn y 1960au. Ers hynny, mae’r syniad a ddyfeisiodd o ddefnyddio newidiadau amledd o fewn band penodol o’r sbectrwm radio wedi ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys WiFi a GPS.
Am flynyddoedd lawer, roedd Hedy Lamarr yn fwyaf adnabyddus fel seren Hollywood. Wnaeth hi erioed geisio cuddio ei gwaith fel dyfeisiwr, ond nid dyna’r prif hanes a adroddwyd amdani. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hanes ei gwaith fel dyfeisiwr wedi dod yn fwy adnabyddus ac mae’n ein hysbrydoli i fod yn chwilfrydig ac i weithio tuag at ddyfodol gwell.
[1] Rhodes, R, 2011, Hedy’s Folly. The life and breakthrough inventions of Hedy Lamarr. Double-Day, UDA.
[2] CMG Worldwide (2022) Hedy Lamarr. Gwefan Swyddogol Hedy Lamarr. Ar-lein: hedylamarr.com (Cyrchwyd 21ain Chwefror 2022).
[3] Wikipedia (2022) Hedy Lamarr. Ar-lein: en.wikipedia.org/wiki/Hedy_Lamarr (Cyrchwyd 21ain Chwefror 2022).