Y Fonesig Stephanie Shirley (cy)


This is a blog post by Mark Lee, for International Women’s Day 2022. You can find the English version here.

Dyma blog gan Mark Lee, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2022. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.

Y Fonesig Stephanie ‘Steve’ Shirley CH, DBE, FREng, FBCS,

Mae Stephanie Shirley yn adnabyddus am sefydlu’r tŷ meddalwedd cyntaf a redwyd gan ferched yn unig ym 1962. Am y ddeng mlynedd ar hugain mlynedd ddilynol bu’n arloesi gyda nifer o syniadau ar gyfer meddalwedd a busnes a ddaeth yn ddylanwadau pwysig ar y diwydiant peirianneg meddalwedd oedd yn datblygu ar y pryd.

Roedd cymeriad annibynnol, arloesol a chryf Stephanie yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Syrthiodd mewn cariad â mathemateg yn Ysgol Uwchradd Croesoswallt i Ferched. Yn anffodus, nid oedd mathemateg yn cael ei ddysgu yn yr ysgol, ond caniatawyd iddi gael gwersi yn yr ysgol leol i fechgyn. Yn ei harddegau ni cheisiodd gael lle mewn prifysgol ond bu’n gweithio yng Ngorsaf Ymchwil Swyddfa’r Post yn Dollis Hill ymysg dynion yn unig, lle daeth o hyd i rywbeth roedd hi’n ei garu fwy byth – cyfrifiaduron a rhaglennu. Wrth weithio, mynychodd ddosbarthiadau nos am chwe blynedd a chwblhaodd radd anrhydedd o Brifysgol Llundain mewn mathemateg. Roedd y cyflawniadau hyn yn rai anarferol ac eithriadol ar y pryd.

Cyfarfu Stephanie â’i gŵr yng Ngorsaf Ymchwil Swyddfa’r Post, a barhaodd i weithio yno fel ffisegydd. Symudodd i Computer Developments Limited ym 1959, ac ym 1962 sefydlodd ei chwmni, Freelance Programmers, a newidiodd yn F International ym 1974. Nod y cwmni oedd darparu cyflogaeth yn y cartref i famau ifanc oedd â sgiliau meddalwedd, neu “swyddi i ferched gyda phlant”. Ym 1996 roedd 75 o fenywod yn gweithio i’r cwmni, a thyfodd hyn yn fuan i 300 o weithwyr a dim ond 3 ohonynt yn ddynion. Yn eironig, ym 1975 fe’u gorfodwyd gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i newid y datganiad cenhadaeth i “pobl â dibynyddion sy’n methu â gweithio mewn amgylchedd confensiynol”.

Datblygodd y cwmni brosesau rheoli prosiect gyda staff yn gweithio o bell ar adeg pan nad oedd unrhyw ddull electronig o gyfathrebu. Arloeswyd sawl dull arall o beiriannu meddalwedd, gan gynnwys syniadau ystwyth tebyg i’r rhai a ddefnyddir heddiw. Yn ddiamau, y gallu a’r proffesiynoldeb hwn a roddodd enw da i’r cwmni am gyflawni eu gwaith ar amser ac o fewn y cyllidebau.

Mae eu gwaith arloesol arall yn cynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus (nad yw’n cael ei ddefnyddio o hyd mewn rhai sefydliadau), oriau gwaith hyblyg (a arweiniodd at gynhyrchiant uwch), a chydberchnogaeth ar y cwmni (a olygodd bod dros 70 o’r staff wedi dod yn filiwnyddion yn y pen draw).

Ym 1987 ymddiswyddodd ‘Steve’ Shirley, fel yr oedd yn llofnodi ei henw ei hun er mwyn atal gwreig-gasineb, o’i swydd fel Prif Swyddog Gweithredol. Newidiwyd enw’r cwmni i Xansa yn 2001 ac fe’i prynwyd yn 2007 gan y cwmni gwasanaethau TG o Ffrainc, Groupe Steria SCA.

Hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol roedd y Fonesig Shirley yn eithriadol ac yn ysbrydoli. Penderfynodd roi ei ffortiwn o bron i £70 miliwn i achosion da, fel y disgrifir yn ei llyfr “Let IT Go“.

Roedd dau brif fuddiolwr: elusennau ymchwil awtistiaeth, a’r Oxford Internet Institute sy’n ymchwilio i agweddau cymdeithasol, economaidd a moesegol ar y Rhyngrwyd.

Bu’n Llywydd Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain rhwng 1989 a 1990 ac enillodd lawer o anrhydeddau a gwobrau gan gynnwys Cymrodoriaeth yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Nid wyf wedi cael y fraint o’i chyfarfod, ond gwnaeth ei sgyrsiau’r fath argraff arnaf nes iddi fy ysbrydoli i ddilyn ei gyrfa – a hynny’n aml trwy adroddiadau cyson ar dudalennau’r cylchgrawn Technoleg Gwybodaeth Computer Weekly.

Hannah Dee

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Post comment