Y Fonesig Mary Cartwright, DBE, FRS (cy)

This is a blog post by Frank Bott, for International Women’s Day 2021. You can find the English version here.
Dyma blog gan Frank Bott, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2021. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.

Mathemategydd a Meistres Coleg Girton, Caergrawnt

Roedd y Fonesig Mary Cartwright (1900 – 1998) yn un o fathemategwyr pur mwyaf blaenllaw Prydain yng nghanol yr 20fed ganrif. Ynghyd â Littlewood, Birkhoff a Kolmogorov, roedd hi’n un o sylfaenwyr theori anhrefn.

Darllenodd Cartwright Fathemateg yng Ngholeg St Hugh’s, Rhydychen, gan ennill gradd cyntaf. Ar ôl pedair blynedd o ddysgu ysgol, dychwelodd i Rydychen fel myfyrwraig ymchwil dan oruchwyliaeth G H Hardy. Dyfarnwyd DPhil iddi ym 1930; ei harholwr allanol oedd J E Littlewood o Gaergrawnt. (Roedd Hardy a Littlewood y dau mathemategwr pur Prydeinig blaenllaw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.) Symudodd i Goleg Girton, Caergrawnt i ymgymryd â chymrodoriaeth ymchwil. Ym 1935, cyhoeddodd bapur sylweddol yn Mathematische Annalen, o’r enw ‘Some inequalities in the theory of functions’, a sefydlodd ei henw da ac arweiniodd at ei phenodi’n Ddarlithydd yng Nghaergrawnt, lle’r oedd i aros nes iddi ymddeol.

Er mai theori ffwythiannau oedd ei chariad cyntaf, maes roedd i barhau i gyhoeddi gwaith pwysig drwyddo i’w hymddeoliad, mae gwaith mwyaf adnabyddus Cartwright yn ymwneud ag hafaliad Van der Pol. Ym 1938, gofynnodd y llywodraeth am arweiniad gan fathemategwyr pur ynghylch rhai mathau o hafaliadau gwahaniaethol cyffredin aflinol ail-drefn sydd â chymwysiadau pwysig mewn peirianneg radar a radio yn fwy cyffredinol. Dechreuodd Cartwright a Littlewood ymddiddori yn hafaliad Van der Pol, sydd, ar ei symlaf, o ffurf

Fe wnaethant lwyddo i ddangos, pan fydd μ yn fawr, bod holl ddatrysiadau o bwys yr hafaliad hwn yn cydgyfarfod â datrysiad cyfnodol lle mae ei osgled yn tueddu i 2 tra bod μ→∞. O hyn, aethant ymlaen i ddadansoddiad manwl o ymddygiad datrysiadau o’r un hafaliad â therm gorfodi. Y canlyniad oedd tri phapur cydweithredol, nas cyhoeddwyd tan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd oherwydd eu perthnasedd i gyfathrebu radar a radio. Roedd y gwaith hwn yn dangos ymddygiad anhrefnus yn glir a’r hyn a elwir bellach yn effaith pili pala. Aeth Cartwright ymlaen i ddatblygu’r syniadau hyn mewn rhyw 30 o bapurau pellach, yn bennaf gyda hi ei hun fel unig awdur.

Ym 1947, etholwyd Cartwright yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, dim ond y bedwaredd fenyw i gael ei hethol a’r mathemategwraig cyntaf. Ym 1955, hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar Gyngor y Gymdeithas, a dyfarnwyd Medal Sylvester y Gymdeithas iddi ym 1964. Gwasanaethodd dymor fel Llywydd y Gymdeithas Fathemategol a Chymdeithas Fathemategol Llundain, a dyfarnwyd ei anrhydedd uchaf, y Medal “de Morgan”, iddi ym 1968. Fe’i gwnaed yn Gomander Fonesig Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1969. Mae Cymdeithas Fathemategol Llundain yn parhau i gynnal Darlith flynyddol Mary Cartwright er anrhydedd iddi.

Ym 1949, daeth Cartwright yn Feistres Girton, swydd a ddaliodd nes iddi ymddeol yn 1968. Roedd hwn yn gyfnod tyngedfennol i’r Coleg. Dechreuodd swydd Meistres yn union fel yr oedd Caergrawnt (o’r diwedd!) wedi penderfynu y gellid dyfarnu graddau i fenywod, ond roedd hyn yn golygu bod angen newidiadau sylweddol yn y ffordd yr oedd y Coleg yn cael ei weithredu. Rhedodd Girton mewn modd diymhongar ond effeithlon ac effeithiol. Fel ‘Pennaeth Tŷ’ roedd disgwyl iddi fod yn rhan o faterion y Brifysgol ar lefel uchel, cyfranogiad a groesawodd, gan wasanaethu ar Gyngor y Senedd am nifer o flynyddoedd yn ogystal â chadeirio’r Gyfadran Fathemateg.

I fi fel myfyriwr israddedig yn mynychu ei darlithoedd ar hafaliadau gwahaniaethol, roedd Mary’n ymddangos yn ffigwr anghysbell ac ysbrydoledig ond, ar ôl i mi raddio, des i i’w hadnabod yn well. Roedd hi’n poeni yn angerddol ag anghenion myfyrwyr benywaidd yng Nghaergrawnt. Roedd hi’n hoff o’r theatr, o opera a’r celfyddydau yn gyffredinol, ac roedd hi wedi teithio’n eang. Ar ben hynny, roedd hi’n gwmni da iawn.

Blog gan Frank Bott

INC-SITE-admin

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Post comment