Jean Valentine (cy)

This is a blog post by Hannah Dee, for International Women’s Day 2022. You can find the English version here.

Dyma blog gan Hannah Dee, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2022. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd ymdrech torri codau Prydain yn digwydd yn Bletchley Park, Swydd Buckingham. Mae llawer wedi’i ysgrifennu am y gwŷr oedd yn gweithio yno, gan gynnwys torwyr codau enwog fel Alan Turing. Rhywbeth sy’n llai amlwg o glywed yr enwau mawr (neu o ffilmiau fel The Imitation Game) yw bod dros dri chwarter staff Bletchley yn fenywod.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd Bletchley yn cael ei hagor fel amgueddfa am y tro cyntaf, euthum ar daith yno a chael taith o gwmpas y lle gan fenyw hynod ddeallus (a byr iawn) o’r enw Jean Valentine. Roedd Jean wedi gweithio yn Bletchley yn ystod y rhyfel; ar adeg ein taith roedd hi yn ei 80au, a hi oedd y tywysydd gorau y gallai grŵp fod wedi gobeithio ei chael.

Rwyf wedi dewis ysgrifennu am Jean ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod oherwydd i mi gwrdd â hi; serch hynny, mae hi’n un o dros 8000 o fenywod oedd yn gweithio yn Bletchley, ac rwy’n siŵr bod miloedd o straeon eraill i’w hadrodd. Dewiswyd y merched hyn ar gyfer gwaith cudd-wybodaeth trwy gysylltiadau teuluol, cysylltiadau eraill dibynadwy, recriwtio drwy’r Llynges Frenhinol a chystadlaethau croesair hyd yn oed.

Jean Valentine guiding us around Bletchley/ Jean Valentine yn ein tywys o amgylch Bletchley
Jean Valentine guiding us around Bletchley/ Jean Valentine yn ein tywys o amgylch Bletchley

Yn ystod y rhyfel bu Jean yn weithredwr y Bombe, yn defnyddio’r datgodiwr mawr mecanyddol oedd yn helpu i gracio’r cod Enigma bob dydd. Roedd hyn yn gofyn gwaith cyfrifo manwl, ond dim ond rhan o’r stori roedd pob gweithredwr yn ei wybod. Bu’n gweithio shifftiau 8 awr yng nghwt 11, lle roedd menywod yn gweithio ddydd a nos yn chwilio am gyfuniadau posib o osodiadau gyda pheiriant Bombe, gan drosglwyddo’r wybodaeth hon ar y ffôn ar ôl gorffen. Degawdau yn ddiweddarach, dysgodd Jean fod y ffôn wedi arwain at gwt arall ar y safle lle roedd y wybodaeth yn cael ei chyfieithu. Roedd popeth wedi’i rannu’n adrannau: roedd y gweithwyr yn ymwybodol eu bod yn gwneud gwaith pwysig, ond nid oeddent yn gwybod ystyr y wybodaeth. Mae’n rhaid ei fod yn fyd rhyfedd i weithio ynddo.

Cadwodd Jean ei gwaith yn dawel tan y 1970au. Rwy’n cofio ei chlywed yn disgrifio gweld Bletchley ar y teledu ac yna’n dweud wrth ei theulu ei bod wedi gweithio yno. Dychwelodd i’r man hwn oedd yn gynefin iddi yn ystod y rhyfel pan ailagorodd, gan weithio ym Mharc Bletchley a’r Amgueddfa Gyfrifiadura Genedlaethol, a daeth yn enwog fel tywysydd am ddangos y Bombe i ymwelwyr hyglod, gan gynnwys y Frenhines a Dug Caeredin. Bu farw Jean yn 2019, yn 94 oed, ac roedd rhaglen ei hangladd yn cynnwys cerdd gan ei hŵyr “From Crib to Crypt” wedi’i hysgrifennu mewn cod.

Roedd rôl menywod yn rhyfeddol ar ddechrau cyfnod cyfrifiadura Prydain, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cofio hynny.


The Women of Station X, fideo gan BCSWomen am y merched fu’n gweithio ym Mharc Bletchley yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Hannah Dee

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Post comment