Pat Fothergill (cy)

This is a blog post by Myra Wilson, for International Women’s Day 2021. You can find the English version here.
Dyma blog gan Myra Wilson, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2021. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.

Pat Fothergill
Pat Fothergill

Pat Fothergill (née Waddington) (1936 – 2017)

Dechreuodd Pat Fothergill ei gyrfa yn y maes roboteg yn yr Adran Deallusrwydd Peiriannau a Chanfyddiad (a ddaeth yn ddiweddarach yn Adran Deallusrwydd Artiffisial) ym Mhrifysgol Caeredin. Gweithiodd fel Cydymaith Ymchwil, yna darlithydd, gan weithio’n agos gyda Robin Popplestone ar raglennu trinwyr robotiaid. Arweiniodd Pat y grŵp roboteg nes iddi adael, i ymgymryd â darlithyddiaeth hŷn ym Mhrifysgol Aberdeen ym 1986.

Roedd prif ymchwil gynnar Pat yn cynnwys dylunio ac adeiladu braich trinio o’r enw Freddy (yn Amgueddfa’r Alban ar hyn o bryd) a oedd yn gallu cydosod gwrthrychau gan ddefnyddio gweledigaeth. Datblygodd ymchwil ddiweddarach yr iaith RAPT (Robot Automatically Programmed Tool) a oedd yn caniatáu i raglennydd ddisgrifio sut roedden nhw eisiau’r adeiladu gan robot gael ei wneud mewn modd gwrthrych-ganolog. Roedd hyn yn cynnwys modelu, perthnasoedd gofodol a modiwl trin algebra. Wrth iddi symud i Aberdeen, cymerodd ran o’r prosiect RAPT gyda hi ac aeth ymlaen i ddatblygu addysgu Deallusrwydd Artiffisial yn ei hadran newydd.

Wnes i gwrdd â Pat two cyntaf yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr israddedig. Roedd hi newydd symud o Gaeredin i Aberdeen i’r Adran Cyfrifiadureg lle roeddwn i’n israddedig yn fy mlwyddyn olaf. Fe ddysgodd fodiwl ar roboteg (fy nghyfarfyddiad cyntaf â’r pwnc) a gorffennais wneud fy mhrosiect blwyddyn olaf o dan ei goruchwyliaeth. (rhyngwyneb graffigol i iaith raglennu RAPT). Roedd hi’n dipyn o sefyllfa ryfedd nad oeddwn i wir yn ei gwerthfawrogi ar y pryd – fe wnaeth un o fy ffrindiau, merch arall, wneud prosiect gyda Pat hefyd, felly roedden ni’n eistedd a thrafod roboteg – 3 menyw gyda’n gilydd yn y canol y 1980au. Nid nes i mi fynd i gynhadledd roboteg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gyda 400 o ddynion mewn siwtiau y sylweddolais pa mor unigryw oedd y sefyllfa honno!

Roedd Pat yn ysbrydoliaeth ac yn berson daearol iawn a oedd yn barod i roi amser i mewn i helpu a chynghori. Un o arloeswyr robotiaid cynnar yr Alban, trosglwyddodd ei gwybodaeth i lawer o israddedigion ac ôl-raddedigion fel ei gilydd.

Hannah Dee

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Post comment