Beatrice Worsley (cy)
This is a blog post by Amanda Clare, for International Women’s Day 2022. You can find the English version here.
Dyma blog gan Amanda Clare, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2022. Cewch ffindio’r fersiwn Saesneg yma.
Ganed Beatrice Worsley ym Mecsico yn 1921 ond symudodd i Ganada yn 7 oed. Ar ôl graddio mewn Mathemateg a Ffiseg, ymunodd â Gwasanaeth Llynges Frenhinol Merched Canada ym 1944 ac yna cwblhaodd radd Meistr mewn mathemateg a ffiseg yn MIT. Yno, ysgrifennodd ei thraethawd ymchwil “A Mathematical Survey of Computing Devices” ac ychwanegodd “with an Appendix on Error Analysis of Differential Analyzers“.
Yn nyddiau cynnar cyfrifiadura, roedd yn anodd iawn rhaglennu cyfrifiaduron. Roedd gwaith ar y gweill i geisio symleiddio’r peiriannau gyda llai o wahanol gydrannau a chyfarwyddiadau caledwedd symlach. Aeth Worsley i Gaergrawnt i ddysgu wrth draed Turing, Wilkes, Hartree ac eraill, ac i ddechrau PhD y byddai’n ei chwblhau yn Toronto ym 1952. Roedd traethawd ymchwil ei PhD yn ymchwilio i’r hyn y byddai ei angen mewn iaith gyffredinol (set o “godau gorchymyn”) y gellid ei defnyddio gan unrhyw beiriant (Dosbarth I). Fodd bynnag, ar ôl dadansoddi’r anghenion ar gyfer gwahanol feysydd cymhwyso: cyfrifiadau rhesymeg, problemau peirianneg a mathemateg gymhwysol, problemau mathemateg pur, a phroblemau cyflogres neu ystadegol, gwelodd y byddai pob cymhwysiad yn elwa mewn gwirionedd o ddefnyddio set wahanol o godau er mwyn sicrhau effeithlonrwydd. O gyfrif lleiafswm y cyfarwyddiadau fyddai eu hangen ar gyfer gwahanol senarios, gwelodd y byddai cod peiriant cyffredinol yn golygu y byddai angen cod llawer mwy cymhleth ar gyfer rhai cymwysiadau pe byddent yn defnyddio iaith gyffredinol.
Gweithiodd Worsley yng Nghanolfan Gyfrifiant Prifysgol Toronto a chynlluniodd grynhowr o’r enw Transcode, ar gyfer peiriant Ferranti Mark I oedd wedi ei leoli yno. Galwodd Beatrice y peiriant yn “Ferut” (“Ferranti computer at the University of Toronto“) a bathwyd yr enw. Roedd y peiriant yn hynod o anodd ei raglennu’n frodorol, ond helpodd ei chrynhowr, Transcode, gannoedd o staff a myfyrwyr i ysgrifennu cod heb namau. Ysgrifennodd Worsley god i ddatrys amrywiaeth o broblemau gwyddonol, megis dadansoddi strwythurau atomig, trylediad, dadfeiliad a chyfrifiadau bioffiseg eraill. Dyluniodd ac ysgrifennodd hefyd lyfrgelloedd o is-reolweithiau wedi’u hoptimeiddio i eraill eu defnyddio, gan gynnwys algebra matrics, ystadegau a rhifyddeg pwynt arnawf. Nododd ei chynlluniau yn ei phapur “Blueprint for a Library” yn 1959 er mwyn i eraill gael eu darllen.
Roedd ei thraethawd ymchwil PhD, “Serial Programming for Real and Idealized Digital Calculating Machines” yn un o’r rhai cyntaf i ddadansoddi cyfrifiaduron modern ymarferol. Mae adlais o’i gwaith arloesol ar ieithoedd cyffredinol a llyfrgelloedd i wneud rhaglennu’n haws ac yn fwy effeithlon yn dal i’w glywed heddiw: rydym yn cytuno o hyd nad oes un iaith raglennu sy’n fwyaf addas ar gyfer pob cymhwysiad, a bod llyfrgelloedd sydd wedi’u dylunio’n dda, sydd wedi’u hoptimeiddio ac y gellir eu hailddefnyddio yn dal i fod yn amhrisiadwy i’r rhaglennydd modern.
I gael rhagor o wybodaeth am ei bywyd a’i gwaith gweler yr erthygl ragorol:
SM Campbell, “Beatrice Helen Worsley: Canada’s female computer pioneer,” yn IEEE Annals of the History of Computing, cyfrol. 25, rhif. 4, tt. 51-62, Hyd-Rhag 2003, https://doi.org/10.1109/MAHC.2003.1253890